Mae’r band wrth eu bodd ac yn ddiolchgar iawn eu bod wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Mynydd Y Gwair, a fydd yn mynd tuag at wneud gwelliannau i Ystafell Ymarfer y Band.
Yn anffodus mae pandemig Coronavirus COVID-19 wedi cyfyngu ar ein gallu i ledaenu hwyl y Nadolig yn y gymuned leol.
Yn lle perfformiadau cyhoeddus mewn archfarchnadoedd lleol, tafarndai, yn y gymuned ac wrth gwrs ein cyngerdd Nadolig blynyddol, rydym yn falch iawn o rannu detholiad o berfformiadau o’r gorffennol o hoff ddarnau Nadolig Band Tref Pontarddulais i’ch rhoi mewn hwyliau Nadoligaidd.
Wrth i ni gyfrif hyd at y diwrnod mawr, byddwn yn postio darn newydd bob dydd, gan gynnwys rhywbeth arbennig IAWN ar benwythnos y 19eg/20fed.
Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook, neu edrychwch ar y dudalen hon am ddiweddariadau!
24ain Rhagfyr – We Wish You a Merry Christmas
Ar gyfer ein fideo olaf, performiad rhithwir o’r darn rydyn ni fel arfer yn defnyddio i orffen ein sesiynau chwarae carolau.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau ein fideos Nadolig, rydym yn gorffen gyda neges gan Gadeirydd Band Tref Pontarddulais:
Mae y flwyddyn 2020 wedi bod un sydd wedi profi yn annodd i ni gyd. Rhydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cynnal y Band mewn yr amser herfeiddiol hon ac yn gwerthfawrogi eich cefnogaith parhaol. Mae’r Pwyllgor wedi bod yn brysur ac yn cydweithio i sicrhau y diogelwch o’r aelodau ac yn awr yn edrych ymlaen i’r dyfodol – 2021. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Sue Aldrich Cadeirydd, Band Tref Pontarddulais
23ain Rhagfyr – The Twelve Days of Christmas
Amser i ganu! Mae’r eitem hon wedi dod yn dipyn o draddodiad yn ein Cyngerdd Nadolig blynyddol!
22ain Rhagfyr – (Not So) Silent Night
Nawr fersiwn gwahanol, gan Jonathan Mead, o Dawel Nos, a berfformwyd gan y Bandiau Hŷn, Hyfforddi a Dechreuwyr. Yn bendant un arall i’w wylio tan y diwedd …
21ain Rhagfyr – Mary, Did You Know?
Darn mwy distaw heddiw, wedi’i drefnu gan ein chwaraewr corn tenor, Tara Smith.
20fed Rhagfyr – Santa Claus-Trophobia
Nesaf yw’r ail o’n fideos arbennig, a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y Nadolig hwn!
19eg Rhagfyr – Jingle Bells
Dyma’r cyntaf o’r fideos arbennig fel yr addawyd, wedi’i recordio’n arbennig ar gyfer y Nadolig hwn!
18fed Rhagfyr – Winter Wonderland
Ffefryn Nadoligaidd arall heddiw!
17eg Rhagfyr – Christmas Overture
Faint o ganeuon a charolau Nadolig allwch chi gyfri yn y fideo heddiw?
16eg Rhagfyr – One Day I’ll Fly Away
Nesaf yw unawd gan ein chwaraewr corned soprano, Kevin ‘Snowman’ Shanklin. Unwaith eto, daliwch i wylio am y trac bonws cudd ar y diwedd …
15fed Rhagfyr – A Christmas Adventure
Mae darn heddiw yn cynnwys unawd gan chwaraewr corn tenor, Tara Smith.
14eg Rhagfyr – Jingle Bells
Nawr ymdrech cyfunol gan y Bandiau Hŷn, Hyfforddi a Dechreuwyr.
13eg Rhagfyr – O Sanctaidd Nos
Nesaf i fyny, perfformiad gan ein chwaraewr ewffoniwm, Lyndon Harris. Gwyliwch hyd y diwedd am wledd ychwanegol…
12eg Rhagfyr – Festive Intrada
Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch ein darn cyntaf, Festive Intrada – cadwch lygad am elf drwg iawn …
Does dim Gorymdaith Goffa ym Mhontarddulais eleni oherwydd y pandemig Coronafeirws COVID-19. Mae’r fideo hon, sy’n defnyddio lluniau o orymdeithiau blynyddoedd blaenorol a Chyngerdd Coffa 100 Mlynedd WW1 2018, ynghyd â chyfraniadau gan Gôr Meibion Pontarddulais a Band Tref Pontarddulais, wedi’i greu fel teyrnged i wasanaeth ac aberth ein Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Mae’r band yn falch iawn i dderbyn grant hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Chronfa Adfer Ddiwylliannol.
Bydd y grant yn helpu’r band i barhau â’i weithgareddau cyn belled â phosibl yn ystod y pandemig Coronafeirws COVID-19.
Mae’r band yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am y grant hwn ac am ei gefnogaeth barhaus.
Mae ‘Cyngerdd Rithwir’ cyntaf y band, a gyhoeddwyd yn ystod pandemig Coronavirus COVID-19, a’r ymdrech codi arian cysylltiedig wedi cael sylw gan BBC Cymru, mewn darllediad newyddion teledu ar ddydd Sul 13eg Gorffennaf ac ar-lein.
Gellir darllen yr eitem newyddion ar wefan BBC Cymru gyda’r eitem a ddangoswyd ar y teledu hefyd ar gael ar wefan BBC Cymru neu islaw.
Yn anffodus ni lwyddodd y band i gynnal ei Gyngerdd Flynyddol yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, a drefnwyd ar gyfer Gorffennaf 4ydd, oherwydd pandemig Coronavirus COVID-19.
Yn lle, roedd y band yn falch iawn o rannu ei Gyngerdd Rhithwir gyntaf, a oedd yn cynnwys rhai o’i berfformiadau uchafbwyntiol a chyfraniadau unawdwyr rhagorol o Gyngherddau Blynyddol blaenorol. Y rhith-cyflwynwr ar gyfer y noson oedd Llywydd y Band, Garry Owen.
Mae’r band yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r cyngerdd ac yn eich annog i’w rannu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu i’w fwynhau hefyd.
Fel y soniwyd ar ddiwedd y fideo, os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd ac yr hoffech roi rhodd i’r band, dilynwch y ddolen hon i ymgyrch gyfredol y band ar GoFundMe.
Rhaglen
Men of Harlech
1.
Ol’ Man River
Oscar Hammerstein and Jerome Kern, arr. Mark Freeh
2015
2.
Prelude on Two Welsh Hymns
Jonathan Mead
2019
3.
Stardust Guest Soloist: Chris Thomas – Trombone
Hoagy Carmichael arr. Bill Geldard
2015
4.
Green Hornet Guest Soloist: Tom Hutchinson – Trumpet
Gosodwyd y band yn 6ed yn yr Adran 1af ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru 2020, a gynhaliwyd ar Chwefror 29ain yn The Great Hall ar Gampws Bae Prifysgol Abertawe.
Y darn prawf gosodedig oedd gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymraeg, Tom Davoren o’r enw ‘Legacy’, a’r beirniaid oedd Alan Morrison a Jonathan Pippen.
Er gwaethaf y gosodiad isel, bydd y band yn cadw ei statws Adran 1af ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar ôl cael dyrchafiad yn ôl i’r Adran 1af yn 2019.
Mae canlyniadau llawn yr adran isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
1
Band B. T. M.
Jeff Hutcherson
4
2
Band Tylorstown
Gary Davies
1
3
Seindorf Arian Deiniolen
Lois Eifion
5
4
Band Lewis Merthyr
Craig Roberts
6
5
Band Parc a’r Dâr
Lewis Wilkinson
7
6
Band Tref Pontarddulais
Paul Jenkins
2
7
Band Bwrdeistref Casnewydd
Robin Hackett
3
Offerynnwr Gorau: Dylan Williams – Corned (Seindorf Arian Deiniolen)
Cynhaliwyd y trydydd cam, a’r cam olaf o Gyfres Cynghrair Cymru 2019 ar Dachwedd 23ain yn Ysgol Stanwell ym Mhenarth, lle enwyd y band yn gyd-Bencampwyr yr Adran Gyntaf ar gyfer 2019, ynghyd â Band BTM.
Roedd y cymal hwn o Gyfres Cynghrair Cymru yn gystadleuaeth ‘Rhaglen Gyngerdd’ a cyfunwyd yr Adran Bencampwriaeth a’r Adran Cyntaf. Gosodwyd y band yn 5ed, ond yn 2il o fandiau’r Adran Gyntaf, gyda rhaglen a oedd yn cynnwys perfformiad cystadleuaeth gyntaf o ‘Prelude on Two Welsh Hymn Tunes’, gan aelod o’r band, Jonathan Mead.
Mae canlyniadau llawn y Bencampwriaeth a’r Adrannau Cyntaf cyfun isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
1
Band Dinas Caerdydd M1 (Adran Pencampwriaeth)
Christopher Bond
3
2
Pres Dyffryn Ebbw (Adran Pencampwriaeth)
Nigel Seaman
5
3
Band Dirwestol Tongwynlais (Adran Pencampwriaeth)
Carl Saunders
1
4
Band BTM (Adran Gyntaf)
Jeff Hutcherson
4
5
Band Tref Pontarddulais (Adran Gyntaf)
Paul Jenkins
6
6
Band Markham a’r Ardal (Adran Gyntaf)
Matt Rowe
2
Offerynnwr Gorau: Tim Jones – Ewffoniwm (Band BTM) Trombon Gorau: Bethan Cooke (Pres Dyffryn Ebbw) Adran Fas Gorau: Band BTM
Roedd y band unwaith eto’n falch o arwain Gorymdaith Goffa ym Mhontarddulais ar y 10fed o Dachwedd 2019. Roedd y Band Hŷn hefyd yn falch o gael aelodau o’r Band Hyfforddi yn cymryd rhan yn y Gorymdaith, gyda rhai ohonynt yn cymryd rhan yn eu Gorymdaith Goffa gyntaf.
Diolch yn arbennig i Iwan Hill, aelod o’r, am chwarae’r ‘Last Post’ yn y Gwasanaeth awyr agored a gynhelir wrth y Gofeb Ryfel ym Mhontarddulais.