Mae’r band yn cystadlu mewn cystadlaethau Cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae wedi’i graddio yn yr Adran Bencampwriaeth yn y DU.
Yn ogystal â chystadlu, rydym yn perfformio’n rheolaidd mewn cyngherddau, gorymdeithiau carnifal, ffeiriau pentref ac rydym ar gael ar gyfer digwyddiadau – gallwn ddarparu unrhyw beth o drwmpedwr ffanffer sengl i Fand Pres llawn!
Mae ymarferion ar ddydd Sul rhwng 7:00yh – 9:00yh a dydd Mercher rhwng 7:30yh – 9:30yh yn ein hystafell band ym Mhontarddulais.
Cyfarwyddwr Cerdd – Paul Jenkins
Dechreuodd Paul chwarae’r trombôn yn 11 oed gyda Band Iau Pontarddulais. Yn fuan iawn esgynnodd trwy’r rhengoedd o dan yr arweinydd, Mr Nigel Buist, gan ymuno’r Band Hŷn flwyddyn yn ddiweddarach.
Chwaraeodd ym mhob sedd yn yr adran trombôn, a daeth yn Brif Trombôn yn 15 oed. Cafodd lawer o lwyddiant gyda’r band, yn enwedig gyda Mr C. B. Buckley wrth y llyw.
Yn 2002, gofynnwyd iddo chwarae i Fand Cory, sydd ar hyn o bryd yn rhif 1 yn y byd. Enillodd Bencampwriaeth Agored Prydain gyda nhw yn ddiweddarach y flwyddyn honno.
Arhosodd gyda nhw am 3 blynedd a hanner, cyn “dychwelyd adref” i Fand Y Bont.
Mae hefyd ganddo brofiad eang fel unawdydd, gan ennill Teitl Pencampwr Unawd De Cymru ar sawl achlysur. Cystadlodd hefyd yng nghystadlaethau Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ac Unawdydd Pres Ifanc BBC Radio 2.
Ers dechrau ei yrfa arwain gyda Band Tref Pontarddulais, maent wedi:
- sicrhau dyrchafiad i’r Adran Bencampwriaeth yng Nghymru ac yn y DU
- ennill Pencampwriaeth Agored Cymru 2022
- eu coroni yn Pencampwyr Adran 1af Rhanbarthol Cymru yn 2010, 2011 a 2022
- eu coroni yn Bencampwyr Adran 1af Cymru 2007
- eu coroni yn Bencamwyr 2il Adran Ranbarthol Cymru yn 2018.
Dyfarnwyd yr ail safle i Paul hefyd ym Mhencampwriaethau Cymdeithas Genedlaethol Arweinwyr Bandiau Pres yn 2008.