Pwy Ydym Ni?
Mae Academi Brass @ Bont, a lansiwyd ym mis Mehefin 2022 gan aelodau o Fand y Bont, yn sefydliad cymunedol i chwaraewyr pres o bob safon ac oedran i greu cerddoriaeth. Ym mhob ymarfer anelwn at feithrin diddordeb a dawn gerddorol yn ogystal â datblygu sgiliau offerynnol ymhellach. Mae ein hymarferion yn galonogol a chynhyrchiol, ac mae aelodau’r band yn mwynhau cydweithio fel tîm i berfformio ystod eang o arddulliau cerddorol. Rydym yn gweithio tuag at feithrin mwy o bartneriaethau gydag ysgolion lleol a bandiau lleol eraill.
Beth Ydym yn ei Gynnig?
Rydym yn croesawu chwaraewyr o bob oed a gallu, wedi’i lleoli yn Ystafell Ymarfer Band Pontarddulais mae Academi Brass @ Bont yn cael ei rhedeg gan dîm o gerddorion pres hynod brofiadol ac athrawon sydd â chyfoeth o brofiad yn y maes. Ynghyd ag ymarferion wythnosol mae cyfleoedd i fynychu ysgolion haf a gweithdai penwythnos yn ogystal â chyfleoedd rheolaidd i berfformio yn y gymuned leol. Rydym yn annog ein haelodau i berfformio mewn nifer o gyngherddau ar draws y flwyddyn – rhai yn cynnwys dim ond Bandiau’r Academi ac eraill yn cynnwys teulu cyfan Bandiau Bont.
Buzztastics
Fel mae’r enw’n awgrymu, dyma’r band ar gyfer chwaraewyr sy’n cychwyn ar eu taith gerddorol. Rydym yn croesawu chwaraewyr sy’n chwythu eu nodyn cyntaf i’r rhai sydd wedi bod yn dysgu ers ychydig. (Gallwn hyd yn oed eich helpu gydag offeryn.) Rydym yn cyfarfod ar ddydd Sul rhwng 4:00pm-4:45pm amser tymor ysgol yn unig. Mae’r ymarferion hyn yn ymwneud â chael hwyl a bod yn brysur yn creu cerddoriaeth. Mae chwaraewyr yn cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled gyda thystysgrifau wrth iddynt symud ymlaen a dangos sgiliau newydd.
Little Bonty Brass
Dyma’r grŵp ar gyfer chwaraewyr sy’n gallu chwarae 5 neu 6 nodyn yn hyderus a darllen cerddoriaeth syml i ddatblygu eu gallu i chwarae fel rhan o fand. Rydym yn cyfarfod ar ddydd Sul rhwng 4:30pm-5:30pm amser tymor ysgol yn unig. Mae chwaraewyr yn parhau i gael eu gwobrwyo am eu gwaith caled gyda thystysgrifau wrth iddynt symud ymlaen a dangos sgiliau newydd.
Band Academi
Mae’r Band Academi yn arwain ymlaen o’r sgiliau a ddatblygwyd yn Little Bonty Brass, mae chwaraewyr yma yn parhau i ddatblygu sgiliau darllen cerddoriaeth a chwarae gyda’u gilydd mewn ensemble. Mae’r ymarferion hyn yn cwmpasu ystod eang o arddulliau cerddorol, ac mae’r cerddoriaeth yn cael ei ddewis yn ofalus i sicrhau ei fod yn hwyl ac yn hygyrch gydag ychydig bach o her. O’r fan hon mae chwaraewyr yn graddio i Band Cymunedol Bont. Rydym yn cyfarfod ar ddydd Sul rhwng 5:30pm – 6:45pm yn ystod tymor ysgol yn unig.
Mae croeso bob amser i chwaraewyr newydd a rhai sy’n dychwelyd – ond gofynnwn i chi anfon e-bost atom yn brassatbont@gmail.com fel y gallwn wneud yn siŵr mai dyma’r band iawn i chi!
Ysgol Haf Blynyddol
Mae ein Hysgolion Haf yn agored i chwaraewyr pres newydd a phresennol 7-18 oed. Bydd ymarferion yn cael eu cynnal rhwng 10:00am – 3:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Bob blwyddyn mae’r cwrs wedi’i deilwra i weddu i’r chwaraewyr sy’n mynychu a bydd sesiynau at ddant pawb o ddechreuwyr i chwaraewyr mwy datblygedig. Daw’r cwrs i ben gyda chyngerdd i deulu a ffrindiau.
May mwy o wybodaeth a manylion cofrestru ar gael gan brassatbont@gmail.com.
Nid oes angen i chi fod yn aelod o Academi Brass @ Bont i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn.
Band Cymunedol
Yn ymarfer ar nos Lun rhwng 7:00pm – 8.30pm yn ystod tymor ysgol yn unig, bydd y band hwn yn chwarae ystod eang o repertoire cyngherddau tymhorol a byddwn yn croesawu chwaraewyr o unrhyw oed o ardal y Bont a’r cyffiniau sydd eisiau dod at ei gilydd ar gyfer rhai ymarferion hamddenol ond â ffocws.
Mae’r band hwn ar eich cyfer chi os ydych chi’n barod i symud ymlaen o’r Band Hyfforddi, yn dychwelyd i chwarae ar ôl seibiant byr (neu hir), os ydych chi eisiau chwarae cerddoriaeth cyngerdd yn dda heb bwysau cystadlu, neu os ydych chi eisiau chywthad dda ar ddydd Llun!!
Bydd croeso cynnes bob amser i chwaraewyr newydd – ond gofynnwn i chi anfon e-bost atom i brassatbont@gmail.com cyn i chi ymuno â ni fel y gallwn wneud yn siŵr bod gennym gerddoriaeth a stondin yn barod ar eich cyfer.
Mae diogelwch ein haelodau yn bwysig iawn i ni. Ymdrechwn i sicrhau bod cyfleoedd i bawb, beth bynnag eu hoedran, diwylliant, anabledd, rhyw, iaith, tarddiad hiliol, cred grefyddol a/neu hunaniaeth rywiol i gymryd rhan mewn bandiau pres mewn amgylchedd pleserus a diogel. Mae ein tîm Academi i gyd wedi’u gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae ein sefydliad bandiau yn bodloni gofynion rhaglen Bandsafe Bandiau Pres Lloegr.