Yn ei ail ymddangosiad yn Adran y Bencampwriaeth ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru yn dilyn dyrchafiad i’r adran cyn tymor cystadlu 2023, perfformiodd y band y darn prawf gosod, ‘Variations on an Enigma’ gan Philip Sparke, yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe ar Ddydd Sul 17eg Mawrth 2024.
Mewn adran yn cynnwys dau fand a oedd eisoes wedi rhag-gymhwyso ar gyfer Rowndiau Terfynol Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain Fawr i’w cynnal yn y Royal Albert Hall yn hwyrach yn y flwyddyn, gosodwyd y band yn 7fed mewn maes o 8 o fandiau.
Mae canlyniadau llawn yr adran isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
1
Band Cory
Philip Harper
1
2
Band Tref Tredegar
Ian Porthouse
7
3
Band Dirwestol Tongwynlais
Owen Farr
2
4
Pres Dyffryn Ebbw
Gareth Ritter
5
5
Band Tylorstown
Rob Westacott
6
6
Band Llwydcoed
Joshua Ruck
3
7
Band Tref Pontarddulais
Paul Jenkins
8
8
Band Dinas Caerdydd (M1)
Christopher Bond
4
Offerynnwr Gorau: Glyn Williams – Ewffoniwm (Band Cory) Corned Gorau: Tom Hutchinson – Band Cory Basau Gorau: Band Cory
Dechreuodd y band tymor cystadlu 2024 gydag ymddangosiad ym Mhencampwriaeth Adloniant Agored Cymru, a gynhaliwyd yn The Riverfront yng Nghasnewydd ar Chwefror 17eg 2024.
Roedd pedwar ar ddeg o fandiau yn yr Adran Pencampwriaeth a’r Adran Gyntaf yn cystadlu, gyda’r beirniad Sheona White a’r dasg o ddewis enillydd. Roedd y band yn hapus a’u perfformiad, a adroddwyd gan arweinydd y digwyddiad, David Hayward, ac fe’u gosodwyd yn 8fed. Dewisodd y band i gyflwyno’r rhaglen ‘Peter Pan’ ganlynol:
The Flight to Neverland, John Williams arr. Sofie Brems Sørensen
A Motley Crew, Trad arr. Philip Harper
Tango, Gavin Higgins
Beneath the Stars, Jonathan Bates
Main Theme from Cutthroat Island, John Debney arr. Philip Harper
Mae canlyniadau llawn y gystadleuaeth i’w gweld isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
Pwyntiau
1
Pres Dyffryn Ebbw
Gareth Ritter
8
196
2
Wantage Silver Band
Chris King
9
195
3
Band Parc a’r Dâr
Dewi Griffiths
14
194
4
Band Llwydcoed
Joshua Ruck
11
193
5
Band Dinas Caerdydd M1
Daniel Hall
3
192
6
Band Dirwestol Tongwynlais
Owen Farr
13
190
7
Band Tylorstown
Rob Westacott
4
189
8
Band Tref Pontarddulais
Paul Jenkins
7
188
9
Milton Keynes Brass
Matthew Brown
10
186
10
Filton Concert Brass
Gary Davies
6
185
11
Forest of Dean Brass
Martyn Patterson
2
184
12
Band B. T. M.
Jeff Hutcherson
1
183
13
Lympstone Band
Nigel Seaman
5
182
14
Chapeltown Silver Prize Band
Colum O’Shea
12
181
Band Adran Gyntaf yn y Safle Uchaf heb fod yn y Gwobrau: Milton Keynes Brass
Ar ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed 2023 aeth y band dros Bont Hafren i gymryd rhan mewn cyngerdd y tu allan i Gymru am yr hyn a gredir yw’r tro cyntaf!
Wedi’i gynnal yn Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth yn Easton, Bryste, roedd y cyngerdd ‘Best of Brass’ yn cynnwys Filton Concert Brass a Band Tref Pontarddulais, ynghyd â’r unawdydd gwadd Ewffoniwm, Daniel Thomas, o Fand y Cory.
Agorodd Filton Concert Brass y cyngerdd, gyda’u arweinydd gwadd Anri Adachi, a dewisodd y band i berfformio eu set Gŵyl Bres Wychavon diweddar, cyn cyfeilio Daniel ar ‘Rhapsody for Ewffonium and Brass Band’.
Yn ail ran y cyngerdd daeth Band Tref Pontarddulais i’r llwyfan, dan arweiniad Paul Jenkins, i berfformio eu detholiad eu hunain o ddarnau ac i gyfeilio Daniel ar ‘In Gardens of Peace’ a ‘Fantasie Originale’.
Yn rhan olaf y cyngerdd cyfunodd y ddau fand i berfformio pedwar darn gyda’i gilydd, gydag Anri a Paul yn rhannu dyletswyddau arwain, gan gloi’n briodol gyda datganiad o ‘Fire in the Blood’ – darn a gomisiynwyd yn wreiddiol i ddathlu 120 mlynedd ers sefydlu Band Staff Rhyngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth.
Aeth holl elw’r cyngerdd tuag at waith Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhanbarth Easton, Bryste.
Mae rhaglen lawn o gerddoriaeth y cyngerdd isod.
Filton Concert Brass (Anri Adachi)
Clans Collide
Philip Harper
Cry Me a River Unawdydd Corned: Neil Allen
Arthur Hamilton tref. TBC
Adagio
Samuel Barber tref. Keith Griffin
I Got Rhythm
George Gershwin tref. Alan Fernie
Thunder and Lightning
Johann Strauss tref. Frank Wright
Rhapsody for Euphonium and Brass Band Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas
Johan Evenepoel
Band Tref Pontarddulais (Paul Jenkins)
Amazonia (o Windows of the World)
Peter Graham
Sosban Fach
Gareth Wood
In Gardens of Peace Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas
Philip Harper
Fantasie Originale Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas
Ermanno Picchi/Simone Mantia tref. Margaret Antrobus
Finale from Symphony No IV
Pyotr Ilyich Tchaikovsky tref. William Gordon
Bandiau Cyfunedig
March – Praise
Wilfred Heaton
Banana Island
Etienne Crausaz
Nimrod (o Enigma Variations)
Edward Elgar tref. Eric Ball
Fire in the Blood
Paul Lovatt-Cooper
ENCORE – Climb Every Mountain
Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein tref. Philip Harper
Cystadlodd y band unwaith eto yn y Tlws Hŷn yng Ngŵyl Wanwyn Pencampwriaeth Agored Prydain ar ddydd Sadwrn 13eg Mai 2023. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn y Neuadd Sbaenaidd yn y Gerddi Gaeaf yn Blackpool, gyda’r darn prawf gosod ‘The Accursed Huntsman’ gan Cesar Franck tre. Edrich Siebert, wedi’i ddewis i herio’r bandiau.
Gosodwyd y band yn 13eg mewn maes o 21 o fandiau, gyda Mark Wilkinson a Brett Baker yn feirniaid.
Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd un o aelodau ein Band Academi, Iolo Evans, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf mewn cystadleuaeth gyda’r band hŷn, yn chwarae’r drwm bas, ochr yn ochr â’i dad ar Corn Flugel.
Mae canlyniadau llawn y gystadleuaeth isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
1
Thundersley Brass
Melvin White
16
2
Amersham
Paul Fisher
12
3
Stannington Brass
Sam Fisher
14
4
Tylorstown
Robert Westacott
15
5
Band Dirwestol Tongwynlais
Owen Farr
13
6
Blackburn & Darwen
Daniel Thomas
5
7
Unison Kinneil
Raymond Tennant
21
8
Eccles Borough
Jon Davis
6
9
Longridge
Mark Peacock
7
10
Yorkshire Imperial
Garry Hallas
17
11
Easington Colliery
Stephen Malcolm
18
12
Pres Dyffryn Ebbw
Gareth Ritter
19
13
Pontarddulais
Paul Jenkins
10
14
Enderby
Stephen Phillips
8
15
Parc a’r Dâr
Dewi Griffiths
9
16
Haverhill Silver
Paul Filby
2
17
Filton Concert Brass
Nathan Jenkins
1
18
Vernon Building Society
Adam Delbridge-Smit
3
19
Thoresby Colliery
Simon Oates
20
20
Bo’ness & Carriden
Charlie Farren
4
21
Hatfield & Askern Colliery
Stan Lippeat
11
Offerynnwr Gorau: Keith Schroeter – Corn Tenor (Thundersley)
Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Adran 1af Pencampwriaethau Rhanbarthol Cymru yn 2022, dyrchafwyd y band i’r Adran Bencampwriaeth ar gyfer cystadleuaeth 2023, a gynhaliwyd ar ddydd Sul 19eg Mawrth 2023 yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe.
Yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr adran uchaf yng Nghymru ers 2013, gwynebodd y band y her o berfformio’r darn prawf gosod, ‘Red Priest’ gan Philip Wilby.
Gosodwyd y band y 6ed safle mewn maes cryf iawn o 7 band.
Mae canlyniadau llawn yr adran isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
1
Band Tref Tredegar
Ian Porthouse
1
2
Band Cory
Philip Harper
2
3
Band Llwydcoed
Joshua Ruck
3
4
Band Dinas Caerdydd (M1)
Chris Bond
7
5
Band Dirwestol Tongwynlais
Owen Farr
4
6
Band Tref Pontarddulais
Paul Jenkins
5
7
Band Tylorstown
Gary Davies
6
Offerynnwr Gorau: Robert Westacott – Soprano (Band Tref Tredegar) Corned Gorau: Tom Hutchinson – Band Cory Basau Gorau: Band Cory
Dechreuodd y band tymor cystadlu 2023 gan obeithio amddiffyn ei deitl ‘Pencampwyr Pencampwriath Agored Cymru’, gydag ymddangosiad ym Mhencampwriaeth Adloniant Agored Cymru, a gynhaliwyd yn The Riverfront yng Nghasnewydd ar Chwefror 18fed 2023.
Roedd pedwar ar ddeg o fandiau yn yr Adran Pencampwriaeth a’r Adran Gyntaf yn cystadlu, gyda’r beirniad Glyn Williams a’r dasg o ddewis enillydd. Yn anffodus, nid oedd y band yn gallu dal ei afael ar Dlws Her CISWO, ond roedd yn falch o’i berfformiad. Unwaith eto, roedd y perfformiad wedi’i hategu gan y DJ radio a phersonoliaeth leol o Abertawe, Kev Johns. Dewisodd y band i gyflwyno’r rhaglen ganlynol:
A Fantasy of Joy, Fredrick Schjelderup
O Verona, Craigh Armstrong arr. Philip Harper
Banana Island, Etienne Crausaz
Ar Lan y Môr, Welsh Traditional arr. Leigh Baker
Enchanted Kingdom, Paul Lovatt-Cooper
Mae canlyniadau llawn y gystadleuaeth i’w gweld isod.
Safle
Band
Arweinydd
Trefn
Pwyntiau
1
Pres Dyffryn Ebbw
Gareth Ritter
12
198
2
Band Llwydcoed
Joshua Ruck
7
197
3
Band Dinas Caerdydd M1
Chris Bond
14
196
4
Band Tref Porthladd Tywyn
Andrew Jones
13
194
5
Band Parc a’r Dâr
Dewi Griffiths
2
193
6
Brunel Brass
Daniel Hall
5
192
7
Filton Concert Brass
Nathan Jenkins
3
191
8
Band Dirwestol Tongwynlais
Owen Farr
9
190
9
Band Tref Pontarddulais
Paul Jenkins
4
189
10
Jackfield Brass Band
Ryan Richards
10
188
11
Michelmersh Silver Band
Melvin White
11
187
12
Band Tylorstown
Gary Davies
8
186
13
Band B. T. M.
Jeff Hutcherson
6
185
14
Band Lewis Merthyr
Craig Roberts
1
184
Band Adran Gyntaf yn y Safle Uchaf heb fod yn y Gwobrau: Band B. T. M.
Cyflwyniad Llwyfan Mwyaf Diddanol: Band Llwydcoed
Unawdydd Gorau: Philip Howells – Xylophone (Pres Dyffryn Ebbw)
Chwaraewr Corned Orau: Andrew Smith (Band Llwydcoed)
Chwaraewr Soprano Orau 4BR: Tom King (Band Llwydcoed)
Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i’n rheolaeth, mae’r cyngerdd a drefnwyd ar gyfer Hydref 1af yn y Tabernacl Treforys wedi’i ganslo. Bydd pob tocyn a werthwyd yn cael ei ad-dalu.
Gosodwyd y band yn 9fed yn Rownd Derfynol Adran Gyntaf Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain Fawr, a gynhaliwyd yn The Centaur, Cae Ras Cheltenham, ar Fedi 17eg 2022. Derbyniodd y band y gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth trwy ennill yr Adran Gyntaf yn Pencampwriaethau Rhanbarthol Cymru ym mis Mawrth.
Roedd gofyn i bob un o’r 16 band oedd yn cystadlu berfformio’r darn prawf gosod ‘Trittico’ gan James Curnow, gyda thri beirniad i greu argraff arnynt – Roger Webster, Ian Porthouse a Gary Davies.