Gosodwyd y band yn 6ed yn yr Adran 1af ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru 2020, a gynhaliwyd ar Chwefror 29ain yn The Great Hall ar Gampws Bae Prifysgol Abertawe.
Y darn prawf gosodedig oedd gwaith newydd gan y cyfansoddwr Cymraeg, Tom Davoren o’r enw ‘Legacy’, a’r beirniaid oedd Alan Morrison a Jonathan Pippen.
Er gwaethaf y gosodiad isel, bydd y band yn cadw ei statws Adran 1af ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar ôl cael dyrchafiad yn ôl i’r Adran 1af yn 2019.
Mae canlyniadau llawn yr adran isod.
Safle | Band | Arweinydd | Trefn |
1 | Band B. T. M. | Jeff Hutcherson | 4 |
2 | Band Tylorstown | Gary Davies | 1 |
3 | Seindorf Arian Deiniolen | Lois Eifion | 5 |
4 | Band Lewis Merthyr | Craig Roberts | 6 |
5 | Band Parc a’r Dâr | Lewis Wilkinson | 7 |
6 | Band Tref Pontarddulais | Paul Jenkins | 2 |
7 | Band Bwrdeistref Casnewydd | Robin Hackett | 3 |
Offerynnwr Gorau: Dylan Williams – Corned (Seindorf Arian Deiniolen)