Yn ei ail ymddangosiad yn Adran y Bencampwriaeth ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru yn dilyn dyrchafiad i’r adran cyn tymor cystadlu 2023, perfformiodd y band y darn prawf gosod, ‘Variations on an Enigma’ gan Philip Sparke, yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe ar Ddydd Sul 17eg Mawrth 2024.
Mewn adran yn cynnwys dau fand a oedd eisoes wedi rhag-gymhwyso ar gyfer Rowndiau Terfynol Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain Fawr i’w cynnal yn y Royal Albert Hall yn hwyrach yn y flwyddyn, gosodwyd y band yn 7fed mewn maes o 8 o fandiau.
Mae canlyniadau llawn yr adran isod.
Safle | Band | Arweinydd | Trefn |
1 | Band Cory | Philip Harper | 1 |
2 | Band Tref Tredegar | Ian Porthouse | 7 |
3 | Band Dirwestol Tongwynlais | Owen Farr | 2 |
4 | Pres Dyffryn Ebbw | Gareth Ritter | 5 |
5 | Band Tylorstown | Rob Westacott | 6 |
6 | Band Llwydcoed | Joshua Ruck | 3 |
7 | Band Tref Pontarddulais | Paul Jenkins | 8 |
8 | Band Dinas Caerdydd (M1) | Christopher Bond | 4 |
Offerynnwr Gorau: Glyn Williams – Ewffoniwm (Band Cory)
Corned Gorau: Tom Hutchinson – Band Cory
Basau Gorau: Band Cory