Ar ôl mwynhau ei flas cyntaf o gystadlu rhithwir ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ar-lein Kapitol Cory, fe wnaeth y band gystadlu ym Mhencampwriaethau Whit Friday Ar-lein, a rhedir gan Band Foden’s.
Darlledwyd y gystadleuaeth ar yr 28ain a’r 29ain o Fai, y penwythnos y mae cystadleuaeth Whit Friday fel arfer yn cael ei chynnal yn ardaloedd Tameside a Saddleworth.
Cymerodd cyfanswm o 119 o fandiau o bob cwr o’r byd ran yn y gystadleuaeth, gan berfformio 57 gorymdaith gwahanol! Mewn gwir ffasiwn Whit Friday, roedd pob band yn cystadlu yn erbyn eu gilydd, ond gyda gwobrau i’r bandiau yn y safleoedd uchaf ym mhob adran. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan Michael Fowles.
Band Tref Pontarddulais oedd band rhif 38 i ymddangos, yn perfformio ‘The Contestor’ gan T. J. Powell, sy’n dechrau tua 2:56:10 yn y fideo isod.
Roedd y band yn falch o gael ei gosod yn 35ain ar y cyfan (o 119) a’r 15fed yn yr Adran 1af (o 24).