Cyngherddau Unwaith Eto!

Bron i 18 mis ar ôl ei berfformiad cyhoeddus diwethaf ym Mhencampwriaethau Rhanbarthol Cymru 2020, roedd Band Tref Pontarddulais yn falch i gael perfformio dau gyngerdd ym mis Awst 2021 yn yr ardal leol.

Y cyntaf oedd cyngerdd gwych ‘Night at the Movies’ yn The Clubhouse yng Nghlwb Golff Pontarddulais ar Awst 14eg fel rhan o’i gyfres haf o gyngherddau.

Yr ail oedd cyngerdd ‘Music from the Movies’ am ddim a gynhaliwyd ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais, ar Ddydd Gŵyl y Banc, Awst 30ain. Gwelodd y digwyddiad gynulleidfa yn niferu yn y cannoedd gyda chadeiriau gardd mewn llaw yn mwynhau picnic wrth gael eu difyrru gan y band.

Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i’r band, fel y bu i bawb, ond er gwaethaf methu â chyflawni gweithgareddau band arferol, bu llawer yn digwydd ‘y tu ôl i’r llenni’.

Perfformiadau Rhithwir

Er nad yw’r band wedi gallu perfformio mewn person ers dechrau pandemig Coronavirus COVID-19, mae’r band wedi ceisio cofleidio’r duedd o ‘berfformiadau rhithwir’ fel ffordd o gadw diddordeb ei aelodau a cheisio dod â rhywfaint o ryddhad i’w gefnogwyr mewn cyfnod anodd.

Y cyntaf oedd ein Cyngerdd Blynyddol Rhithwir, dan arweiniad Llywydd y Band, Garry Owen, a oedd yn cynnwys perfformiadau a recordiwyd mewn Cyngherddau Blynyddol blaenorol a lluniau a gasglwyd gan aelod y band, Jayne Kinnear.

Nesaf oedd fideo a ryddhawyd ar Sul y Cofio, a oedd eto’n cynnwys recordiadau, lluniau, ffotograffau a thoriadau papur newydd a gasglwyd gan Jayne Kinnear. Roedd y fideo hefyd yn cynnwys perfformiadau wedi’u recordio o Gôr Meibion Pontarddulais.

Fe wnaeth y band rhyddhau cyfres of fideos yn ddyddiol yn y cyfnod yn arwain at Ddydd Nadolig, gan arddangos recordiadau o Gyngherddau Nadolig blaenorol, yn ogystal â thri fideo newydd a gafodd eu creu gan ddefnyddio recordiadau a grëwyd gartref gan aelodau unigol o’r band a’u cyfuno i creu un ‘Perfformiad Rhithwir’.

Clinigau Brechu

Gyda’r newyddion rhyfeddol fod brechlyn COVID-19 wedi’i greu ar droad y flwyddyn, atebodd y band yr alwad gan sicrhau bod yr ystafell fand ar gael fel lleoliad ar gyfer brechiadau o fis Chwefror 2021. Diolch yn fawr iawn i’r tîm ym Meddygfa Tal-y -Bont am eu gwaith caled wrth weinyddu’r brechlyn i gynifer o drigolion lleol, gan gynnwys rhai aelodau o’r band!

Cystadlu Ar-lein

Gyda chymaint o fandiau pres ledled y wlad yn cofleidio’r duedd o berfformiadau rhithwir, cynhaliodd y Band Cory a Kapitol Bencampwriaethau Bandiau Ar-lein, lle bu Band Tref Pontardulais yn cystadlu yn yr Adran 1af.

Ar ôl mwynhau’r profiad gymaint, cystadlodd y band ym Mhencampwriaethau Whit Friday Ar-lein Band Foden’s ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gan gystadlu eto yn yr Adran 1af.

Gwelliannau i’r Ystafell Fand

Mae’r band yn ddiolchgar ei fod wedi derbyn grantiau i’w alluogi i weithredu rhai gwelliannau mawr eu hangen i’r ystafell band, a ddigwyddodd yn y Gwanwyn. Roedd y rhain yn cynnwys ailosod y lloriau, ailosod y boeler a gosod rheiddiaduron, ail-darmacio’r maes parcio a gosod gatiau newydd.

Mae’r band hefyd yn ffodus ei fod wedi derbyn grantiau i brynu gazebos, a oedd yn galluogi’r band i ymarfer yn yr awyr agored pan oedd cyfyngiadau a chanllawiau COVID-19 (a’r tywydd!) yn caniatau!

Ymarferion Dan Do

Gyda llacio rhai cyfyngiadau COVID-19 ym mis Mai 2021, llwyddodd y band i ail-gychwyn ymarferion dan do, er nad yn ystafell y band oherwydd maint yr ystafell yr oedd ei angen i fodloni’r bylchau lleiaf sy’n ofynnol rhwng chwaraewyr i gynnal ymarferion diogel. Mae’r band yn ddiolchgar ei fod wedi cael caniatâd i ddefnyddio Neuadd Goffa Penygroes i gynnal ymarferion.