Pencampwriaethau Bandiau Pres Ar-lein Kapitol Cory 2021

Roedd y band wrth ei bodd i gystadlu ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ar-lein Kapitol Cory 2021, cystadleuaeth gerddoriaeth rithwir a ddarlledwyd yn fyw ar YouTube ac a gynhaliwyd gan y Band Cory. Wedi’i ddarlledu dros dri phenwythnos yn olynol ym mis Mawrth, roedd yr ornest yn cynnwys adrannau Pencampwriaeth, 1af i 4ydd, Prifysgol ac Ieuenctid, gyda bandiau yn cystadlu o bob cwr o’r byd!

Cystadlodd Band Tref Pontarddulais yn yr Adran 1af, a ddarlledwyd ar 20fed o Fawrth mewn maes o 12 band. Beirniaid yr adran oedd Chris Thomas, Simon Howell a Helen Williams, aelodau o Fand Cory.

Mae’n werth gwylio’r gystadleuaeth gyfan, ond os mai dim ond gwylio ein fideo ni yr ydych, mae’n dechrau am 1:12:57 yn y fideo isod.

Trefn rhedeg yr adran oedd:

  1. Coalburn Silver Band (Yr Alban)
  2. Strabane Brass (Gogledd Iwerddon)
  3. Johnstone Band (Yr Alban)
  4. Band Tref Pontarddulais (Cymru)
  5. Dallas Brass Band (UDA)
  6. Langley Band (Lloegr)
  7. Seindorf Arian Deiniolen (Cymru)
  8. Freckleton Brass Band (Lloegr)
  9. North Skelton Band (Lloegr)
  10. Drogheda Brass Band (Gweriniaeth Iwerddon)
  11. Wotton Silver (Lloegr)
  12. Strata Brass (Lloegr)