Gwobr Aur i’r Band Hyfforddi

Cystadlodd Band Tref Pontarddulais a Band Hyfforddi Pontarddulais yng Nghystadleuaeth Cymdeithas Band Pres Gorllewin Cymru 2019 ar 5ed Hydref, a gynhaliwyd yn Ysgol Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin.

Offerynwr Gorau - Christopher Jenkins
Offerynwr Gorau – Christopher Jenkins, gyda’r beirniad Paul Holland. (Llun â caniatâd Cymdeithas Bandiau Pres Gorllewin Cymru.)

Dyfarnwyd yr 2il safle i’r Band Hŷn yn yr Adran Gyntaf, gan berfformio ‘A King’s Lie’ gan Stan Nieuwenhuis yn y gystadleaeth hunan ddewisiad hon, sef ail gymal cyfres Cynghrair Cymru 2019. Am y drydedd gystadleaeth Cynghrair Cymru yn olynol, enillodd y prif chwaraewr corned, Christopher Jenkins, y wobr ‘Offerynnwr Gorau’.

Ennillodd y Band Hyfforddi y Wobr Aur ar ôl dychwelyd i’r llwyfan cystadlu eleni, ar ôl perfformio detholiad o gerddoriaeth 10 munud o hyd. Roedd y detholiad yn cynnwys ‘When I Grow Up’ gan Tim Minchin tref. David Edmonds, gyda cyfraniadau unigol gan Aled Tumelty ar y Corned, Dylan Fowles ar y Corn Flugel a Tom Fowles ar yr Ewffoniwm, ‘Kid Shifter’ gan Simon Wyld – unawd trombôn tenor wedi’i berfformio gan Evan Kinnear – ac ‘African Funk’ gan Alan Fernie. Enillodd y Band Hyfforddi hefyd y gwobrau am y Perfformiad Gorau a’r Adran Gorau, a ddyfarnwyd i’r adran Offerynnau Taro.

Mae canlyniadau llawn yr Adran Gyntaf a’r Adran Iau isod.

Adran Gyntaf

SafleBandDarnTrefn
1Band Tref Porth Tywyn
(Ceri John)
Endeavour
(Philip Sparke)
2
2Band Tref Pontarddulais
(Paul Jenkins)
A King’s Lie
(Stan Nieuwenhuis)
1
3Band Markham a’r Ardal
(Matt Rowe)
The Forest of Dean
(Derek Bourgeois)
3

Offerynnwr Gorau: Christopher Jenkins – Corned (Band Tref Pontarddulais)

Adran Ieuenctid ac Iau

GwobrBandArweinydd
AurBand Hyfforddi PontarddulaisKevin Shanklin
ArianBand Iau Gwaun Cae GurwenDafydd Lewis
ArianBand Hyfforddi Bwrdeistref CasnewyddHayley Gibbs

Adran Gorau: Offerynnwyr Taro – Band Hyfforddi Pontarddulais
Perfformiad Gorau: Band Hyfforddi Pontarddulais