
Categori: Digwyddiadau

Cyngerdd Best of Brass
Ar ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed 2023 aeth y band dros Bont Hafren i gymryd rhan mewn cyngerdd y tu allan i Gymru am yr hyn a gredir yw’r tro cyntaf!
Wedi’i gynnal yn Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth yn Easton, Bryste, roedd y cyngerdd ‘Best of Brass’ yn cynnwys Filton Concert Brass a Band Tref Pontarddulais, ynghyd â’r unawdydd gwadd Ewffoniwm, Daniel Thomas, o Fand y Cory.
Agorodd Filton Concert Brass y cyngerdd, gyda’u arweinydd gwadd Anri Adachi, a dewisodd y band i berfformio eu set Gŵyl Bres Wychavon diweddar, cyn cyfeilio Daniel ar ‘Rhapsody for Ewffonium and Brass Band’.

Yn ail ran y cyngerdd daeth Band Tref Pontarddulais i’r llwyfan, dan arweiniad Paul Jenkins, i berfformio eu detholiad eu hunain o ddarnau ac i gyfeilio Daniel ar ‘In Gardens of Peace’ a ‘Fantasie Originale’.

Yn rhan olaf y cyngerdd cyfunodd y ddau fand i berfformio pedwar darn gyda’i gilydd, gydag Anri a Paul yn rhannu dyletswyddau arwain, gan gloi’n briodol gyda datganiad o ‘Fire in the Blood’ – darn a gomisiynwyd yn wreiddiol i ddathlu 120 mlynedd ers sefydlu Band Staff Rhyngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth.

Aeth holl elw’r cyngerdd tuag at waith Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhanbarth Easton, Bryste.
Mae rhaglen lawn o gerddoriaeth y cyngerdd isod.
Filton Concert Brass (Anri Adachi)
Clans Collide | Philip Harper |
Cry Me a River Unawdydd Corned: Neil Allen | Arthur Hamilton tref. TBC |
Adagio | Samuel Barber tref. Keith Griffin |
I Got Rhythm | George Gershwin tref. Alan Fernie |
Thunder and Lightning | Johann Strauss tref. Frank Wright |
Rhapsody for Euphonium and Brass Band Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas | Johan Evenepoel |
Band Tref Pontarddulais (Paul Jenkins)
Amazonia (o Windows of the World) | Peter Graham |
Sosban Fach | Gareth Wood |
In Gardens of Peace Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas | Philip Harper |
Fantasie Originale Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas | Ermanno Picchi/Simone Mantia tref. Margaret Antrobus |
Finale from Symphony No IV | Pyotr Ilyich Tchaikovsky tref. William Gordon |
Bandiau Cyfunedig
March – Praise | Wilfred Heaton |
Banana Island | Etienne Crausaz |
Nimrod (o Enigma Variations) | Edward Elgar tref. Eric Ball |
Fire in the Blood | Paul Lovatt-Cooper |
ENCORE – Climb Every Mountain | Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein tref. Philip Harper |

Cyngerdd Tabernacl Treforys Wedi’i Ganslo
Yn anffodus, oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i’n rheolaeth, mae’r cyngerdd a drefnwyd ar gyfer Hydref 1af yn y Tabernacl Treforys wedi’i ganslo. Bydd pob tocyn a werthwyd yn cael ei ad-dalu.

Cyngerdd Nadolig Rhithwir 2021
Gan fod pandemig Coronavirus COVID-19 wedi arwain at ganslo mwyafrif o berfformiadau Nadolig y band unwaith eto, mae gan y band wledd arbennig iawn i chi – cyngerdd rhithwir gan Fand Tref Pontarddulais a’r anhygoel Côr Meibion Pontarddulais, gyda ragarweiniad gan Lywydd y côr, Mr Eric Jones.
Mae’r band yn hynod ddiolchgar i’r ddau am eu cyfraniadau ac mae’n anrhydedd cael rhannu llwyfan gyda nhw, er ei fod yn un rhithwir! Mae’r band yn mawr obeithio y bydd Nadolig 2022 yn gweld y Cyngerdd Nadolig cymunedol poblogaidd yn dychwelyd a’r cyfle i bob sefydliad cerdd ym Mhontarddulais berfformio gyda’u gilydd unwaith eto.
Gan ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Fideos Nadolig 2020
Yn anffodus mae pandemig Coronavirus COVID-19 wedi cyfyngu ar ein gallu i ledaenu hwyl y Nadolig yn y gymuned leol.
Yn lle perfformiadau cyhoeddus mewn archfarchnadoedd lleol, tafarndai, yn y gymuned ac wrth gwrs ein cyngerdd Nadolig blynyddol, rydym yn falch iawn o rannu detholiad o berfformiadau o’r gorffennol o hoff ddarnau Nadolig Band Tref Pontarddulais i’ch rhoi mewn hwyliau Nadoligaidd.
Wrth i ni gyfrif hyd at y diwrnod mawr, byddwn yn postio darn newydd bob dydd, gan gynnwys rhywbeth arbennig IAWN ar benwythnos y 19eg/20fed.
Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook, neu edrychwch ar y dudalen hon am ddiweddariadau!
24ain Rhagfyr – We Wish You a Merry Christmas
Ar gyfer ein fideo olaf, performiad rhithwir o’r darn rydyn ni fel arfer yn defnyddio i orffen ein sesiynau chwarae carolau.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau ein fideos Nadolig, rydym yn gorffen gyda neges gan Gadeirydd Band Tref Pontarddulais:
Mae y flwyddyn 2020 wedi bod un sydd wedi profi yn annodd i ni gyd. Rhydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cynnal y Band mewn yr amser herfeiddiol hon ac yn gwerthfawrogi eich cefnogaith parhaol. Mae’r Pwyllgor wedi bod yn brysur ac yn cydweithio i sicrhau y diogelwch o’r aelodau ac yn awr yn edrych ymlaen i’r dyfodol – 2021. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Sue Aldrich
Cadeirydd, Band Tref Pontarddulais
23ain Rhagfyr – The Twelve Days of Christmas
Amser i ganu! Mae’r eitem hon wedi dod yn dipyn o draddodiad yn ein Cyngerdd Nadolig blynyddol!
22ain Rhagfyr – (Not So) Silent Night
Nawr fersiwn gwahanol, gan Jonathan Mead, o Dawel Nos, a berfformwyd gan y Bandiau Hŷn, Hyfforddi a Dechreuwyr. Yn bendant un arall i’w wylio tan y diwedd …
21ain Rhagfyr – Mary, Did You Know?
Darn mwy distaw heddiw, wedi’i drefnu gan ein chwaraewr corn tenor, Tara Smith.
20fed Rhagfyr – Santa Claus-Trophobia
Nesaf yw’r ail o’n fideos arbennig, a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y Nadolig hwn!
19eg Rhagfyr – Jingle Bells
Dyma’r cyntaf o’r fideos arbennig fel yr addawyd, wedi’i recordio’n arbennig ar gyfer y Nadolig hwn!
18fed Rhagfyr – Winter Wonderland
Ffefryn Nadoligaidd arall heddiw!
17eg Rhagfyr – Christmas Overture
Faint o ganeuon a charolau Nadolig allwch chi gyfri yn y fideo heddiw?
16eg Rhagfyr – One Day I’ll Fly Away
Nesaf yw unawd gan ein chwaraewr corned soprano, Kevin ‘Snowman’ Shanklin. Unwaith eto, daliwch i wylio am y trac bonws cudd ar y diwedd …
15fed Rhagfyr – A Christmas Adventure
Mae darn heddiw yn cynnwys unawd gan chwaraewr corn tenor, Tara Smith.
14eg Rhagfyr – Jingle Bells
Nawr ymdrech cyfunol gan y Bandiau Hŷn, Hyfforddi a Dechreuwyr.
13eg Rhagfyr – O Sanctaidd Nos
Nesaf i fyny, perfformiad gan ein chwaraewr ewffoniwm, Lyndon Harris. Gwyliwch hyd y diwedd am wledd ychwanegol…
12eg Rhagfyr – Festive Intrada
Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch ein darn cyntaf, Festive Intrada – cadwch lygad am elf drwg iawn …

Sul y Cofio 2020
Does dim Gorymdaith Goffa ym Mhontarddulais eleni oherwydd y pandemig Coronafeirws COVID-19. Mae’r fideo hon, sy’n defnyddio lluniau o orymdeithiau blynyddoedd blaenorol a Chyngerdd Coffa 100 Mlynedd WW1 2018, ynghyd â chyfraniadau gan Gôr Meibion Pontarddulais a Band Tref Pontarddulais, wedi’i greu fel teyrnged i wasanaeth ac aberth ein Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Cyngerdd Blynyddol Rhithwir 2020
Yn anffodus ni lwyddodd y band i gynnal ei Gyngerdd Flynyddol yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, a drefnwyd ar gyfer Gorffennaf 4ydd, oherwydd pandemig Coronavirus COVID-19.
Yn lle, roedd y band yn falch iawn o rannu ei Gyngerdd Rhithwir gyntaf, a oedd yn cynnwys rhai o’i berfformiadau uchafbwyntiol a chyfraniadau unawdwyr rhagorol o Gyngherddau Blynyddol blaenorol. Y rhith-cyflwynwr ar gyfer y noson oedd Llywydd y Band, Garry Owen.
Mae’r band yn gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r cyngerdd ac yn eich annog i’w rannu gyda’ch ffrindiau a’ch teulu i’w fwynhau hefyd.
Fel y soniwyd ar ddiwedd y fideo, os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd ac yr hoffech roi rhodd i’r band, dilynwch y ddolen hon i ymgyrch gyfredol y band ar GoFundMe.
Rhaglen
Men of Harlech | |||
1. | Ol’ Man River | Oscar Hammerstein and Jerome Kern, arr. Mark Freeh | 2015 |
2. | Prelude on Two Welsh Hymns | Jonathan Mead | 2019 |
3. | Stardust Guest Soloist: Chris Thomas – Trombone | Hoagy Carmichael arr. Bill Geldard | 2015 |
4. | Green Hornet Guest Soloist: Tom Hutchinson – Trumpet | Billy May arr. A. Morrison | 2018 |
5. | Ballade Guest Soloist: Sheona White – Tenor Horn | J. Golland | 2019 |
6. | The World’s Greatest Storyteller | Philip Harper | 2017 |
7. | Salsa Tres’ Prado | Philip Harper | 2017 |
8. | Helter Skelter Soloist: Sara Llewellyn | W. G. Lemon arr. Ray Woodfield | 2019 |
9. | Tale of the Dragon | Paul Lovatt-Cooper | 2019 |
Hen Wlad Fy Nhadau |

Gorymdaith Goffa
Roedd y band unwaith eto’n falch o arwain Gorymdaith Goffa ym Mhontarddulais ar y 10fed o Dachwedd 2019. Roedd y Band Hŷn hefyd yn falch o gael aelodau o’r Band Hyfforddi yn cymryd rhan yn y Gorymdaith, gyda rhai ohonynt yn cymryd rhan yn eu Gorymdaith Goffa gyntaf.
Diolch yn arbennig i Iwan Hill, aelod o’r, am chwarae’r ‘Last Post’ yn y Gwasanaeth awyr agored a gynhelir wrth y Gofeb Ryfel ym Mhontarddulais.







