Dychwelyd i’r Adran Bencampwriaeth

Yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Adran 1af Pencampwriaethau Rhanbarthol Cymru yn 2022, dyrchafwyd y band i’r Adran Bencampwriaeth ar gyfer cystadleuaeth 2023, a gynhaliwyd ar ddydd Sul 19eg Mawrth 2023 yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe.

Yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr adran uchaf yng Nghymru ers 2013, gwynebodd y band y her o berfformio’r darn prawf gosod, ‘Red Priest’ gan Philip Wilby.

Gosodwyd y band y 6ed safle mewn maes cryf iawn o 7 band.

Mae canlyniadau llawn yr adran isod.

SafleBandArweinyddTrefn
1Band Tref TredegarIan Porthouse1
2Band CoryPhilip Harper2
3Band LlwydcoedJoshua Ruck3
4Band Dinas Caerdydd (M1)Chris Bond7
5Band Dirwestol TongwynlaisOwen Farr4
6Band Tref PontarddulaisPaul Jenkins5
7Band TylorstownGary Davies6

Offerynnwr Gorau: Robert Westacott – Soprano (Band Tref Tredegar)
Corned Gorau: Tom Hutchinson – Band Cory
Basau Gorau: Band Cory