Rowndiau Terfynol Cenedlaethol 2022

Gosodwyd y band yn 9fed yn Rownd Derfynol Adran Gyntaf Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol Prydain Fawr, a gynhaliwyd yn The Centaur, Cae Ras Cheltenham, ar Fedi 17eg 2022. Derbyniodd y band y gwahoddiad i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth trwy ennill yr Adran Gyntaf yn Pencampwriaethau Rhanbarthol Cymru ym mis Mawrth.

Roedd gofyn i bob un o’r 16 band oedd yn cystadlu berfformio’r darn prawf gosod ‘Trittico’ gan James Curnow, gyda thri beirniad i greu argraff arnynt – Roger Webster, Ian Porthouse a Gary Davies.

Mae canlyniadau llawn yr adran isod.

SafleBandArweinyddTrefn
1StanningtonSam Fisher15
2Marsden Silver PrizeAndrew Lofthouse13
3StaffordshireCraig Williams14
4Sandhurst SilverDavid Johnson16
5Acceler8Jef Sparkes8
6Ebbw ValleyGareth Ritter1
7Ashton under LyneMartyn Evans6
8Bo’ness & CarridenCharlie Farren9
9Tref PontarddulaisPaul Jenkins7
10HydeNigel Seaman2
11Dalkeith & MonktonhallJames Chamberlain3
12Kirbymoorside TownSarah Woodward11
13Gresley CollieryCraig Stevens10
14East of England Co-opNigel Cooper4
15HoughtonMichael Franey5
16Bodmin TownSimon Badge12