Ar ôl derbyn gwahoddiad i gystadlu yng Ngŵyl Wanwyn Pencampwriaeth Agored Prydain ar sail ei buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Agored Cymru ym mis Chwefror, dychwelodd y band i Blackpool am y tro cyntaf ers 2013 i gystadlu yn y Tlws Hŷn.
Wedi’i gynnal yn y Neuadd Sbaeneg yn y Gerddi Gaeaf ar 7fed Mai 2022, perfformiodd y band y darn prawf gosod, ‘Life Divine’, gan (cyfansoddwr a aned yn Abertawe!) Cyril Jenkins.
Gosodwyd y band yn 7fed mewn maes o 22 o fandiau, ei safle uchaf erioed yn y gystadleuaeth! Beirniaid yr ornest oedd Sandy Smith a Simon Gresswell.
Roedd y band yn ddiolchgar iawn i dderbyn cyllid o Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Mynydd y Gwair i dalu costau cludiant am y penwythnos.
Mae canlyniadau llawn y gystadleuaeth isod.
Safle | Band | Arweinydd | Trefn |
1 | Unite the Union | Jonathan Beatty | 20 |
2 | Boarshurst Silver | Jamie Prophet | 10 |
3 | Fishburn | Duncan Beckley | 18 |
4 | East London Brass | Jayne Murrill | 19 |
5 | Tylorstown | Gary Davies | 1 |
6 | Enderby | Stephen Phillips | 13 |
7 | Pontarddulais | Paul Jenkins | 21 |
8 | Unison Kinneil | Raymond Tennant | 2 |
9 | Hatfield & Askern Colliery | Stan Lippeatt | 6 |
10 | Yorkshire Imperial Urquhart Travel | Garry Hallas | 5 |
11 | Eccles Borough | Mareika Gray | 22 |
12 | Easington Colliery | Stephen Malcolm | 4 |
13 | Thundersley Brass | Melvin White | 11 |
14 | Amersham | Paul Fisher | 3 |
15 | Marsden Silver | Andrew Loftshouse | 12 |
16 | Sovereign Brass | Stephen Roberts | 8 |
17 | Bo’ness & Carriden | Andrew Duncan | 14 |
18 | Lydbrook | Stephen Sykes | 17 |
19 | Crofton Silver | Dean Jones | 15 |
20 | Roberts Bakery | Paul Lovatt-Cooper | 9 |
21 | Staffordshire | Craig Williams | 7 |
22 | Jackfield | Ryan Richards | 16 |
Offerynnwraig Gorau: Sarah Curtis – Trombôn (Unite the Union)