Amddiffyniad Teitl Pencampwriaeth Agored Cymru

Dechreuodd y band tymor cystadlu 2023 gan obeithio amddiffyn ei deitl ‘Pencampwyr Pencampwriath Agored Cymru’, gydag ymddangosiad ym Mhencampwriaeth Adloniant Agored Cymru, a gynhaliwyd yn The Riverfront yng Nghasnewydd ar Chwefror 18fed 2023.

Pencampwriaeth Agored Cymru 2023
Band Tref Pontarddulais
Credyd llun: Facebook Welsh Open Brass Band Entertainment Championship

Roedd pedwar ar ddeg o fandiau yn yr Adran Pencampwriaeth a’r Adran Gyntaf yn cystadlu, gyda’r beirniad Glyn Williams a’r dasg o ddewis enillydd. Yn anffodus, nid oedd y band yn gallu dal ei afael ar Dlws Her CISWO, ond roedd yn falch o’i berfformiad. Unwaith eto, roedd y perfformiad wedi’i hategu gan y DJ radio a phersonoliaeth leol o Abertawe, Kev Johns. Dewisodd y band i gyflwyno’r rhaglen ganlynol:

  • A Fantasy of Joy, Fredrick Schjelderup
  • O Verona, Craigh Armstrong arr. Philip Harper
  • Banana Island, Etienne Crausaz
  • Ar Lan y Môr, Welsh Traditional arr. Leigh Baker
  • Enchanted Kingdom, Paul Lovatt-Cooper

Mae canlyniadau llawn y gystadleuaeth i’w gweld isod.

SafleBandArweinyddTrefnPwyntiau
1Pres Dyffryn EbbwGareth Ritter12198
2Band LlwydcoedJoshua Ruck7197
3Band Dinas Caerdydd M1Chris Bond14196
4Band Tref Porthladd TywynAndrew Jones13194
5Band Parc a’r DârDewi Griffiths2193
6Brunel BrassDaniel Hall5192
7Filton Concert BrassNathan Jenkins3191
8Band Dirwestol TongwynlaisOwen Farr9190
9Band Tref PontarddulaisPaul Jenkins4189
10Jackfield Brass BandRyan Richards10188
11Michelmersh Silver BandMelvin White11187
12Band TylorstownGary Davies8186
13Band B. T. M.Jeff Hutcherson6185
14Band Lewis MerthyrCraig Roberts1184

Band Adran Gyntaf yn y Safle Uchaf heb fod yn y Gwobrau: Band B. T. M.

Cyflwyniad Llwyfan Mwyaf Diddanol: Band Llwydcoed

Unawdydd Gorau: Philip Howells – Xylophone (Pres Dyffryn Ebbw)

Chwaraewr Corned Orau: Andrew Smith (Band Llwydcoed)

Chwaraewr Soprano Orau 4BR: Tom King (Band Llwydcoed)

Adran Corn Orau: Brunel Brass

Adran Offerynnau Taro Orau: Pres Dyffryn Ebbw

Offerynnwr Ieuengaf: Sioned Evans (Band Tref Porthladd Tywyn)

Gwahoddiad i Gystadlu yn y Senior Trophy yn y Spring Festival 2023: Band Tref Porthladd Tywyn