Does dim Gorymdaith Goffa ym Mhontarddulais eleni oherwydd y pandemig Coronafeirws COVID-19. Mae’r fideo hon, sy’n defnyddio lluniau o orymdeithiau blynyddoedd blaenorol a Chyngerdd Coffa 100 Mlynedd WW1 2018, ynghyd â chyfraniadau gan Gôr Meibion Pontarddulais a Band Tref Pontarddulais, wedi’i greu fel teyrnged i wasanaeth ac aberth ein Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Mis: Tachwedd 2020
Cyllid Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae’r band yn falch iawn i dderbyn grant hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Chronfa Adfer Ddiwylliannol.
Bydd y grant yn helpu’r band i barhau â’i weithgareddau cyn belled â phosibl yn ystod y pandemig Coronafeirws COVID-19.
Mae’r band yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am y grant hwn ac am ei gefnogaeth barhaus.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad newyddion ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.