Ar ddydd Sadwrn Tachwedd 18fed 2023 aeth y band dros Bont Hafren i gymryd rhan mewn cyngerdd y tu allan i Gymru am yr hyn a gredir yw’r tro cyntaf!
Wedi’i gynnal yn Neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth yn Easton, Bryste, roedd y cyngerdd ‘Best of Brass’ yn cynnwys Filton Concert Brass a Band Tref Pontarddulais, ynghyd â’r unawdydd gwadd Ewffoniwm, Daniel Thomas, o Fand y Cory.
Agorodd Filton Concert Brass y cyngerdd, gyda’u arweinydd gwadd Anri Adachi, a dewisodd y band i berfformio eu set Gŵyl Bres Wychavon diweddar, cyn cyfeilio Daniel ar ‘Rhapsody for Ewffonium and Brass Band’.

Yn ail ran y cyngerdd daeth Band Tref Pontarddulais i’r llwyfan, dan arweiniad Paul Jenkins, i berfformio eu detholiad eu hunain o ddarnau ac i gyfeilio Daniel ar ‘In Gardens of Peace’ a ‘Fantasie Originale’.

Yn rhan olaf y cyngerdd cyfunodd y ddau fand i berfformio pedwar darn gyda’i gilydd, gydag Anri a Paul yn rhannu dyletswyddau arwain, gan gloi’n briodol gyda datganiad o ‘Fire in the Blood’ – darn a gomisiynwyd yn wreiddiol i ddathlu 120 mlynedd ers sefydlu Band Staff Rhyngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth.

Aeth holl elw’r cyngerdd tuag at waith Byddin yr Iachawdwriaeth yn rhanbarth Easton, Bryste.
Mae rhaglen lawn o gerddoriaeth y cyngerdd isod.
Filton Concert Brass (Anri Adachi)
| Clans Collide | Philip Harper |
| Cry Me a River Unawdydd Corned: Neil Allen | Arthur Hamilton tref. TBC |
| Adagio | Samuel Barber tref. Keith Griffin |
| I Got Rhythm | George Gershwin tref. Alan Fernie |
| Thunder and Lightning | Johann Strauss tref. Frank Wright |
| Rhapsody for Euphonium and Brass Band Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas | Johan Evenepoel |
Band Tref Pontarddulais (Paul Jenkins)
| Amazonia (o Windows of the World) | Peter Graham |
| Sosban Fach | Gareth Wood |
| In Gardens of Peace Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas | Philip Harper |
| Fantasie Originale Unawdydd Ewffoniwm: Daniel Thomas | Ermanno Picchi/Simone Mantia tref. Margaret Antrobus |
| Finale from Symphony No IV | Pyotr Ilyich Tchaikovsky tref. William Gordon |
Bandiau Cyfunedig
| March – Praise | Wilfred Heaton |
| Banana Island | Etienne Crausaz |
| Nimrod (o Enigma Variations) | Edward Elgar tref. Eric Ball |
| Fire in the Blood | Paul Lovatt-Cooper |
| ENCORE – Climb Every Mountain | Richard Rodgers ac Oscar Hammerstein tref. Philip Harper |






