Am gyfnod yn ystod ail ddegawd yr 20fed ganrif, disgrifiwyd Pontarddulais fel y “Mecca of all brass band enthusiasts in West Wales” . Ym mis Medi 1915 a 1916, a Gorffennaf 1917 a 1918, cynhaliwyd Cystadleuaeth Flynyddol Pencampwriaeth Bandiau Pres Cymdeithas Bandiau Pres Gorllewin Cymru mewn lleoliadau ledled y pentref, gan gynnwys Caeau Tyle Coch, Parc Coed Bach a Pharc Belle Vue. Yn gyffredinol, cynhaliwyd cystadlaethau’r amser yn yr awyr agored yn ystod y ‘misoedd tywydd da’ gan eu bod yn cynnwys cystadleuaeth Gorymdeithio yn ogystal â cystadleuaeth Darn Prawf, a oedd yn gofyn am ddigon o le. Yn ogystal, nid oedd unrhyw leoliad dan do yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer y torfeydd o bobl a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau hyn. Efallai y cewch eich synnu o glywed bod y cystadlaethau hyn yn ‘Ddigwyddiad Mawr’ gan ddenu torfeydd enfawr o bobl. Mae’r wasg leol yn cofnodi sut roedd “ideal weather” yn ffafrio’r 16eg cystadleuaeth Flynyddol ym mis Gorffennaf 1917, gyda dros 4,000 o bobl yn mynychu Parc Coed Bach, Pontarddulais ar y diwrnod. Roedd Herald Cymru yn awyddus i dynnu sylw fod Pontarddulais “has never known such an influx of visitors” gyda dros 2,000 o bobl yn dod ar y trên!

Mae’r isod yn ddyfyniad doniol o’r ‘South Wales Weekly Post / Carmarthen Journal a South West Wales Weekly Advertiser’ ar 20fed Gorffennaf 1917:
While one of the bands were rehearsing before the competition at Pontardulais last Saturday an inquisitor went on and asked one of the pIayers if they were practising the piece for the competition. “I don’t know,” was the reply. “I only play bass.”
Gwnaeth y band yn eithriadol o dda dros gyfnod o dair blynedd o gystadlu, 1915-1918, gan esgyn Ddosbarth C i Ddosbarth A erbyn Ebrill 1918. Efallai mai eu hawr orau yn ystod y cyfnod hwn oedd yn y 15fed Pencampwriaeth Flynyddol a gynhaliwyd ar Gaeau Coch Tyle Pontarddulais ym mis Medi 1916. Cymerodd y Band y wobr gyntaf yn chwarae ‘Prince & Peasant’ a dyfarnwyd y Darian Her iddynt. Fe greodd y band record hefyd, cyn belled ag yr oedd Cymdeithas Gorllewin Cymru yn y cwestiwn, gan mai nhw oedd y band Dosbarth C cyntaf i ennill cystadlaethau Dosbarth B a Dosbarth C ar yr un diwrnod. Mae Herald of Wales yn adrodd: “There was great jubilation on Saturday evening over the success of the Town Silver Band, and Bandmaster Hanney and his clever combination were the recipients of well-deserved congratulations”.


Dan arweinyddiaeth Mr E. R. Pritchard, F.Mus., R.C.M. Llundain, cyn y gystadleuaeth yn Briton Ferry ddydd Sadwrn Tachwedd 10fed 1917, cynhaliodd y band ymarfer agored yn Haggar’s Picture Palace Pontarddulais (lle bu casgliad ariannol!). Mae papurau newydd yn adrodd bod y band wedi “rendered several selection in excellent style”, gan gynnwys y ddau ddarn prawf, (ie dau – roedd y band yn cystadlu yn Nosbarth B ac C!) ac “Excelsior”, ar gais arbennig.

Mae’r tabl canlynol yn dangos canlyniad cystadleuaeth Llansawel, ynghyd â rhai o ganlyniadau cystadleuaethau arall y Band o’r cyfnod.
Dyddiad | Lleoliad | Dosbarth | Darn Prawf | Canlyniad |
Mai 1915 | Cwmmawr | C | Gems of Old Days | 2il |
14eg Medi 1915 | Pontarddulais | C | ? (Classical Favourites) | 3ydd |
Medi 1916 | Cross Hands | Gorymdaith | Hunan Ddewisiad | Tua allan i’r 3 uchaf |
Medi 1916 | Cross Hands | B a C | Prince & Peasant | Tua allan i’r 3 uchaf |
Medi 1916 | Cross Hands | A | Siege of Kochelle | Tua allan i’r 3 uchaf |
15fed Medi 1916 | Pontarddulais | Gorymdaith | Hunan Ddewisiad | Tua allan i’r 3 uchaf |
15th Medi 1916 | Pontarddulais | B a C | Prince & Peasant | 1af (Challenge Shield) |
Mawrth 1917 | Llansawel | B | Anhysbys | 3ydd |
16eg Gorffenaf 1917 | Pontarddulais | A | La Dame Blanche | 3ydd |
Medi 1917 | Pontarddulais | A | United Kingdom | 4ydd |
Medi 1917 | Pontarddulais | B | Lombardi | 2il |
Tachwedd 1917 | Llansawel | B a C | La Dame Blanche | 1af (Silver Bowl) |
Ebrill 1918 | Rhydaman | A | Anhysbys | 3ydd |
Mai 1918 | Mynydd Cynffig | A | Anhysbys | 3ydd |
17eg Gorffenaf 1918 | Pontarddulais | Gorymdaith | Battle Abbey | 2il |
Awst 1918 | Rhydaman | A | Anhysbys | 3ydd |
Awst 1918 | Rhydaman | Gorymdaith | Anhysbys | Cyd 3ydd |
Ym mis Ionawr 1918, roedd Pontardulais mewn argyfwng. Roedd y frech goch yn endemig, roedd llawer o’r gweithiau tunplat lleol yn segur ac roedd ciwiau mawr am fwyd, lle yr oedd yn rhaid i’r cwnstabliaeth leol eu goruchwylio. Cynhaliodd Band y Dref eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Lieut. D. J. Davies (Graig Merthyr) oedd yn Llywydd a dangosodd cyfrifon £57 7s. 2d. yn y banc. Wrth astudio canlyniadau’r cystadleuathau ar gyfer 1917, dangosir fod y band wedi bod yn llwyddiannus ymhob un gyda un lle 1af, pedwar 2il le a thri 3ydd lle. Cyflwynodd Bandmaster Pritchard fedal i Mr Alf Jones am y cofnod presenoldeb gorau mewn ymarferion.
